Lynne Neagle AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Bae Caerdydd
 Caerdydd
 CF99 1NA

CYPE(5)-24-19 – Papur i’w nodi22

 

 

 

Annwyl Lynne

 

 

Deiseb P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

 

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi bod yn ystyried y ddeiseb uchod ers mis Ebrill 2017.  Yn ystod yr amser hwnnw, mae'r Pwyllgor wedi ystyried ystod o wybodaeth a materion yn ymwneud â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol ac wedi gohebu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru.

 

Fodd bynnag, mae nifer o'r materion a godwyd gan y deisebydd, gan gynnwys darparu gwregysau diogelwch ar fysiau cyhoeddus a gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i yrwyr, yn faterion a gedwir yn ôl i Senedd y DU.  O ystyried hynny, yn ein cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2019, penderfynodd y Pwyllgor gau'r ddeiseb, gan ei bod yn ymddangos nad oedd llawer yn fwy y gallem ei wneud i symud y ddeiseb ymlaen.

 

Wrth gau'r ddeiseb, cytunodd yr Aelodau dynnu sylw'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y ddeiseb, rhag ofn ichi ystyried edrych ar faterion yn ymwneud â chludiant ysgol yn y dyfodol.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y ddeiseb, gan gynnwys y testun llawn a’r ohebiaeth yn ei chylch, ar gael ar ein gwefan yn:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=24658

 

 

 

 

 

 

 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm clercio'r Pwyllgor yn SeneddDeisebau@cynulliad.cymru.

 

 

Yn gywir

 

Janet Finch-Saunders AC

Cadeirydd